LABC CYMRU
Rydych chi yma > Hafan > Swyddfeydd > Caerdydd

Caerdydd

Shaun Reville MRICS MBA

Rheolwr Gweithredol Rheoli Adeiladu
Rheoli Adeiladu,
Cyngor Caerdydd,
Neuadd y Ddinas,
Caerdydd
CF10 3ND

Mae’r Uned Rheoli Adeiladu yn rhan o’r Adran Gwasanaethau Rheoli ac mae wedi’i lleoli yn Neuadd y Ddinas.

Mae gan Gaerdydd botensial eang o ran cyfleoedd datblygu domestig, diwydiannol a masnachol ac mae’r Uned Rheoli Adeiladu wedi’i sbarduno i ymateb i anghenion Penseiri a Dylunwyr.

Mae’r Uned Rheoli Adeiladu yn hynod frwd i ddod yn rhan o’ch prosiect cyn gynted ag y bo modd gan y gallant ddarparu cyngor a chymorth i chi yn ystod y broses ddylunio.

Gellir prosesu pob cais trwy ddull tîm datblygu. Gellir trefnu cyfarfodydd ar y cyd gyda chynrychiolwyr o’r Adran Rheoli Adeiladu, Priffyrdd, Awdurdod Tân ac ati, er mwyn sicrhau bod y prosiect yn gallu symud yn ei flaen mor rhwydd â phosib i’r broses o roi caniatâd.

Mae sawl menter ar gael gydag amrywiaeth o lyfrynnau gwybodaeth a nodiadau canllaw.

Mae’n gwasanaeth Rheoli Adeiladu wedi’i ddylunio i gael cyn lleied o effaith â phosib ar gynnydd eich prosiect; mae archwiliadau ar yr un diwrnod a phan wneir cais am archwiliad fel arfer yn digwydd fel rhan o’r gwasanaeth a roddir, ar yr amod eich bod yn galw’r swyddfa cyn 10.00am. Gellir cysylltu â phob un o’r Syrfewyr Rheoli Adeiladu ar eu ffôn symudol.

Yn ogystal â gorfodi’r Rheoliadau Adeiladu, mae’r uned yn gyfrifol am ddymchweliadau, strwythurau peryglus a diogelwch mewn meysydd chwaraeon hefyd. Mae’r uned wedi’i achredu i safon ISO 9002.

Member Login

Forgotten Password?

Map Navigation

Click on the map to navigate to your area

Snowdonia Video