LABC CYMRU
Rydych chi yma > Hafan > Partneriaethau

Partneriaethau

Mae bod yn bartner â LABC yn ei gwneud yn bosib i gwmnïau adeiladu, penseiri a dylunwyr eraill ‘fod yn bartneriaid’ gydag awdurdod lleol o’u dewis ar gyfer y cyfnod o archwilio’r cynllun yn ystod y broses rheolaeth adeiladu. Gall eich sefydliad ddewis cael cyswllt cenedlaethol neu ranbarthol â LABC. Bydd hyn yn rhoi un pwynt cyswllt i chi ar gyfer archwilio’r cynllun ac i roi cyngor i chi er mwyn sicrhau bod pob un o’ch prosiectau’n cydymffurfio â’r Rheoliadau.


Yr amcan yw lleihau oedi diangen gan awdurdodau statudol a chyflymu’r broses sy’n arwain at dderbyn caniatâd Rheoliadau Adeiladu pan fo modd gwneud hynny. Mae’r Awdurdod Partner yn cyflawni hyn trwy gysylltu â’r Awdurdod Lleol sy’n Archwilio a rhoi cyngor proffesiynol i’r Cwmnïau Partner cyn y cyfnod dylunio ac ar ôl hynny.

Mae’r Cynllun Awdurdod Partner yn darparu perthynas un i un rhwng Cwmnïau Partner ac Awdurdodau Partner ar gyfer y cam caniatáu cynlluniau i bob prosiect adeiladu waeth ble y maent wedi’u lleoli yng Nghymru a Lloegr, gwarchod natur gyfrinachol dyluniad yr adeilad, caffael a gweithredu fel cwndid effeithiol i’r awdurdod lleol ble y mae’r adeilad am gael ei godi (Awdurdod Lleol sy’n Archwilio) ar ran y Cwmni Partner. Ceir hefyd gysylltiadau da â rhai sy’n gwneud gwaith cyffelyb yn yr Alban a Gogledd Iwerddon ac mae’r cynllun yn dechrau bod o gymorth gyda’r prosesau yno hefyd.

Bydd yr Awdurdod Partner yn asesu’r cynlluniau ar gyfer prosiect ac yn cyflwyno nodyn penderfyniad (decision advice note) i’r awdurdod lleol sy’n rheoli’r ardal ble mae’r datblygiad wedi’i leoli. Yn sgil hynny, bydd caniatâd Rheoliadau Adeiladu’n cael ei roi gan yr Awdurdod Lleol sy’n Archwilio. Bydd hyn yn cael gwared ar unrhyw amheuaeth am anghysondeb, gan ei gwneud yn fwy posib i’r dylunydd ragweld yr hyn sy’n mynd i ddigwydd.

Ar yr un pryd, bydd gwybodaeth leol LABC ynghyd â gwybodaeth am hanes cyflwr y safle a gwybodaeth ddefnyddiol arall am y safle, yn cael ei ymgorffori fel rhan anhepgor o’r Cynllun Awdurdod Partner.

Mae’r dull hwn, sydd wedi ei hir sefydlu, yn ei gwneud yn bosib cael dros 350 o awdurdodau lleol partner sydd wedi’u hymrwymo i weithio â’u cwmni/cwmnïau partner ac fel Awdurdodau Lleol sy’n Archwilio pryd bynnag fo’r gwaith adeiladu arfaethedig wedi’i leoli yn eu hardal. Yn ogystal, byddant yn cydweithio â’i gilydd er mwyn lleihau oedi ar y safleoedd, boed hynny yn y cam cyn adeiladu ac yn ystod y gwaith sy’n mynd yn ei flaen ar y safle.

Gellir cael pamffledi gwybodaeth a ffurflen gais o Brif Swyddfa LABC neu gan eich awdurdod lleol agosaf. Mae’r ffurflen yn gofyn am fanylion eich cwmni ac yn gofyn pa awdurdod lleol yr hoffech gael yn bartner i chi ar y cynllun.

Unwaith y bydd y dewis o Awdurdod Partner wedi’i gytuno, bydd yr awdurdod lleol yr ydych wedi’i ddewis yn trefnu bod cynrychiolwyr o’r cwmni a’r awdurdod lleol yn cyfarfod er mwyn trafod manylion a sgôp y bartneriaeth. Dylid ymdrin â’r cyfarfod cyntaf fel cyfle i ddechrau creu perthynas dda. I’r perwyl hwn, dylai bod sesiwn o rannu gwybodaeth yn cael ei chynnal er mwyn sefydlu dealltwriaeth glir o’r gofynion sydd gan y cwmni a’r awdurdod lleol er mwyn sicrhau bod y bartneriaeth yn gweithio.

Yn ogystal, gall yr Awdurdod Lleol sy’n Archwilio fod o gymorth gyda sefydlu cyfarfod gyda’r Tîm Datblygu – sy’n cynnwys adrannau megis Cynllunio, Priffyrdd, y Gwasanaeth Tân ac Iechyd yr Amgylchedd. Gwneir hyn er mwyn sefydlu arferion gwaith corfforaethol mwy integredig sy’n galluogi adrannau awdurdodau lleol i gydweithio. Gellir cael rhagor o fanylion am y Tîm Datblygu gan eich awdurdod lleol neu o Brif Swyddfa LABC.

Mae LABC yn awyddus i gynorthwyo cwmnïau â’u prosiectau adeiladu, gan ddefnyddio Syrfewyr Rheolaeth Adeiladu i gefnogi eich tîm adeiladu a chynghori eich dylunwyr a’ch rheolwyr adeiladu am Reoliadau Adeiladu a deddfwriaeth berthnasol. Bydd asesiad Cynlluniau Llawn yn cael ei ddarparu ar gyfer yr holl brosiectau yr ydych yn penderfynu eu cynnwys dan y Cynllun Awdurdodau Partner. Bydd yr asesiad yn arwain at benderfyniad ffurfiol gan yr Awdurdod sy’n Archwilio sy’n gweithredu ar y cyngor a dderbyniwyd gan yr Awdurdod Partner.

Felly, sicrhewch fod pawb yn gweithio o’ch plaid trwy gydweithio â LABC.

Member Login

Forgotten Password?

Map Navigation

Click on the map to navigate to your area

Snowdonia Video