Cydymffurfio â’r Rheoliadau Adeiladu a’u Gorfodi
Mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i unrhyw un sy’n gwneud gwaith adeiladu sy’n destun y Rheoliadau Adeiladu sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r Rheoliadau ac yn defnyddio un o’r ddau fath o Wasanaeth Rheolaeth Adeiladu sydd ar gael.
Mae’r Gwasanaeth Rheolaeth Adeiladu yn gyfrifol am ystyried a yw’r cynlluniau ar gyfer y gwaith arfaethedig, neu’r gwaith sydd wedi mynd rhagddo, yn cydymffurfio â’r Rheoliadau.
Yn y bôn, y person sy’n gwneud y gwaith adeiladu sy’n gyfrifol am gydymffurfio. Os yw adeiladwr yn cael ei gyflogi, fel arfer, y cwmni dan sylw fydd yn gyfrifol. Fodd bynnag, fel arfer, perchennog yr adeilad fydd yn derbyn hysbysiad gorfodi os nad yw’r gwaith yn cydymffurfio â’r Rheoliadau.
Mae’n ddyletswydd gyffredinol ar yr awdurdod lleol i orfodi’r Rheoliadau yn ei ardal a bydd yn mynd ati i wneud hynny mewn dull anffurfiol pan fo hynny’n bosib. Ar y llaw arall, nid oes gan Archwilwyr Cymeradwy bwerau gorfodi ond os ydynt o’r farn nad yw’r gwaith adeiladu’n cydymffurfio â’r Rheoliadau, ni fyddant yn cyflwyno tystysgrif terfynol a byddant yn canslo’r hysbysiad cychwynnol trwy roi gwybod i’r awdurdod lleol.
Os na fydd unrhyw Archwiliwr Cymeradwy arall yn ymgymryd â’r gwaith, bydd yr awdurdod lleol yn cymryd cyfrifoldeb am y Gwasanaeth Rheolaeth Adeiladu. Mae gan yr awdurdod lleol y pwerau gorfodi angenrheidiol i fynnu bod y gwaith yn cael ei altro os bydd angen.
Cydymffurfio â’r Rheoliadau Adeiladu a’u Gorfodi:
Mae torri’r Rheoliadau yn drosedd a gall yr awdurdod lleol gymryd camau o fewn chwe mis o’r dyddiad pan weithredwyd yn groes i’r Rheoliadau dan adran 35 Deddf Adeiladu 1984. Os fydd rhywun yn ei gael yn euog o droseddau sy’n ymwneud â chydymffurfio â’r Rheoliadau Adeiladu a’u gorfodi yn y llys ynadon, gall yr unigolyn hwnnw gael dirwy o hyd at £5,000 am bob trosedd ac efallai y bydd yn rhaid iddo dalu £50 am bob dydd y mae’r weithred sy’n groes i’r Rheoliadau’n parhau ar ôl iddo gael ei gollfarnu o’r drosedd.
Yn lle hynny (neu’n ogystal â hynny) gall yr awdurdod, dan adran 36 Deddf Adeiladu, gyflwyno hysbysiad sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r perchennog i: a) ddymchwel y gwaith sy’n groes i’r Rheoliadau neu gael gwared arno neu b) altro’r gwaith fel ei fod yn cydymffurfio â’r rheoliadau a gellir adennill y costau sydd ynghlwm â hynny gan y perchennog.
Rhaid cofio bod gofyn gyflwyno Hysbysiad adran 36 o fewn blwyddyn o’r adeg pan y comisiynwyd y gwaith diffygiol. Ni chaniateir camau gorfodi dan a35 ac a36 o’r Ddeddf Adeiladu os yw’r cynlluniau wedi’u cymeradwyo gan yr Awdurdod neu os ydynt wedi methu eu gwrthod yn ystod y cyfnod statudol o bum wythnos o’r adeg pan yr adneuwyd y cynlluniau, neu o fewn deufis os oes cytundeb ar y cyd.
Yn ogystal â’r risg o wynebu camau gorfodi am fethu cydymffurfio â’r rheoliadau, ni fydd tystysgrif cwblhau yn cael ei rhoi i berchennog yr eiddo. Nid oes amheuaeth y bydd hyn yn cael effaith ar berchennog yr eiddo pan fyddant eisiau gwerthu’r adeilad.