Safonau Acwsteg Mewn Ysgolion Newydd

Ers Gorffennaf 2003, mae dyluniad acwstig adeiladau ysgolion newydd yng Nghymru a Lloegr wedi bod yn destun y Rheoliadau Adeiladu.

Rhaid i’r meini prawf newydd sy’n ymwneud ag acwsteg gael eu bodloni dan y rheoliadau sy’n cael eu nodi ym Mwletin Adeiladu 93: Dyluniad Acwstig Ysgolion (BB 93), sydd wedi’i gyhoeddi gan DfES. Cyn 2003, nid oedd unrhyw ofynion cyfreithiol yn ymwneud ag acwsteg mewn ysgolion, er bod argymhellion o ran yr amgylchedd acwstig mewn ysgolion wedi’u cynnwys yn yr amrywiol Fwletinau Adeiladu dros y blynyddoedd.

Mae’r gallu i glywed yn glir yr hyn sy’n cael ei ddweud (speech intelligibility) yn dibynnu ar lefel y sŵn a faint o atsain a geir mewn ystafell. Os yw lefelau’r sŵn yn rhy uchel neu bod gormod o atsain mewn dosbarth, mae’r gallu i glywed yn glir yr hyn sy’n cael ei ddweud yn lleihau ac ni all disgyblion glywed a deall eu hathrawon.

Gall synau sy’n cael eu trosglwyddo i ddosbarth o ardaloedd eraill mewn ysgol neu o’r tu allan hefyd darfu ar y dysgu a gall dynnu sylw’r disgyblion. Gall y problemau hyn fod yn waeth mewn ysgolion sydd ag ardaloedd cynllun agored ynddynt. Yn ogystal, gall lefelau uchel o sŵn a/neu ormod o atsain ei gwneud hi’n anodd iawn i siarad mewn ystafelloedd a gall hyn arwain at risg uchel o broblemau cysylltiedig â’r llais neu’r gwddf i athrawon. Yn ogystal ag effeithio ar y gallu i glywed yn glir yr hyn sy’n cael ei ddweud, gall amgylchiadau acwstig gwael yn y dosbarth gael effaith andwyol ar addysg a datblygiad y plant.

Mae nifer fawr o astudiaethau sydd wedi’u cynnal ledled y byd wedi dangos bod sŵn, boed o ffynonellau y tu allan neu y tu mewn i’r dosbarth, yn gallu achosi poendod ac fe all effeithio ar allu plant iau i adnabod rhifau, llythrennau a geiriau. Yn ogystal, mae sŵn yn gallu cael effaith negatif ar gyrhaeddiad academaidd plant; er enghraifft, dangoswyd bod perthynas rhwng sŵn a sgôr TASau plant mewn ysgolion yng nghanol dinasoedd yn y DU.

Yn ogystal, mae plant sydd ag anghenion arbennig, megis plant sydd â nam ar eu clyw a phlant sydd ag anawsterau dysgu ac iaith, yn gallu bod yn hynod fregus o ran effaith sŵn ac acwsteg gwael. Mae’r plant hyn angen safonau mwy llym na’u cyfoedion yn y brif ffrwd.

Mae’r meini prawf sy’n cael eu nodi yn BB 93 yn rhai sy’n gallu darparu acwsteg (sy’n dderbyniol ar hyn o bryd) ar gyfer addysgu a dysgu. Cafodd y safonau hyn eu cyflwyno yn dilyn ymgynghori â nifer o arbenigwyr yn y maes acwsteg a dylunio ysgolion, yn cynnwys ymgynghorwyr acwsteg, arbenigwyr addysg, penseiri, clywedegwyr ac academyddion.

Mae BB 93 yn cynnwys safonau perfformiad ar gyfer sawl ardal mewn ysgol, yn cynnwys dosbarthiadau. Mae manylebau’n cynnwys lefelau sŵn cefndirol (lefelau sŵn cefndirol y tu mewn i’r adeilad); gosod deunydd mewn gofod sy’n insiwleiddio rhag effeithiau sŵn; amseroedd atsain; gosod deunydd tawelu sŵn mewn ardaloedd cyhoeddus o adeilad; a meini prawf sy’n ymwneud â’r gallu i glywed yn glir yr hyn sy’n cael ei ddweud mewn ardaloedd cynllun agored.

Yn ogystal â gofynion rheoli, mae BB 93 yn cynnwys rhannau ar ardaloedd perthnasol megis insiwleiddio sŵn, rheoli sŵn, dyluniad ystafelloedd o ran siarad a cherddoriaeth a’r defnydd a wneir o systemau seinchwyddo ar gyfer disgyblion sydd ag anghenion arbennig o ran eu clyw.

Dyma rai enghreifftiau o’r gofynion (ar gyfer mannau gwag heb eu dodrefnu): lefelau sŵn cefndirol sy’n ddim uwch na 35 dB (A) ar gyfer dosbarthiadau mewn ysgolion cynradd ac uwchradd, 40 dB (A) ar gyfer ardaloedd dysgu cynllun agored, 30 dB (A) ar gyfer darlithfeydd mawr a 40 dB (A) ar gyfer ardaloedd dylunio a thechnoleg.

Ni ddylai’r amseroedd atsain fod yn ddim mwy na’r hyn a ganlyn: 0.6 eiliad mewn dosbarthiadau cynradd, 0.8 eiliad mewn dosbarthiadau uwchradd ac un eiliad mewn dosbarthiadau cerdd, llyfrgelloedd ac ystafelloedd bwyta. Mewn dosbarthiadau sy’n cael eu defnyddio’n benodol gan ddisgyblion sydd â nam ar eu clyw, ni ddylai’r lefelau sŵn fod yn uwch na 30 dB (A) ac ni ddylai’r amser atsain fod yn fwy na 0.4 eiliad. Mae arolygon acwsteg mewn adeiladau ysgol presennol yn awgrymu na roddwyd blaenoriaeth uchel i anghenion acwsteg mewn dyluniad ysgolion yn y gorffennol gan fod lefelau sŵn uchel ac amseroedd atsain hir yn ffactorau cyffredin mewn sawl dosbarth. Fodd bynnag, nid yw pryderon am acwsteg dosbarthiadau yn ddatblygiad diweddar gan fod problemau yn ymwneud â sŵn ac acwsteg gwael mewn ysgolion wedi’u trafod (a chyngor wedi’i roi parthed y problemau) ers dros 70 mlynedd.

Er hynny, mae sawl tîm dylunio wedi bod yn amharod i roi blaenoriaeth haeddiannol i acwsteg yn nyluniad cyffredinol ysgolion yn y gorffennol. Yn anffodus, mae’r ffasiwn pensaernïol presennol (sy’n ymwneud ag arwynebau adlewyrchol, caled ac ardaloedd agored mawr) yn arwain at lefelau sŵn uwch a gormod o atsain ac mae’r ffasiwn yma yn parhau i gyfrannu at amgylchiadau acwsteg anaddas mewn sawl adeilad ysgol newydd.

Mae’r rhai sy’n ymwneud â dylunio ysgolion yn pryderu am y gost sydd ynghlwm â chydymffurfio â BB 93. Yn UDA, amcangyfrifir bod cydymffurfio â safon S12.60-2002 ANSI, sy’n cynnwys gofynion tebyg i’r rhai sy’n BB 93, yn cynyddu cost ysgol newydd o rhwng 0.5% i 4%.

Mae hyn yn dipyn llai na chost gwaith i wella’r acwsteg ar ôl i’r adeiladau gael eu codi. Fodd bynnag, mae’n bwysig ystyried y costau cudd i’n cymdeithas o ran y posibilrwydd o blant yn tangyflawni yn y dyfodol neu athrawon yn mynd yn wael a hynny o ganlyniad uniongyrchol i acwsteg gwael yn y dosbarth.

Pan fo ysgol newydd yn cael ei chynllunio, dylai’r ymgynghorwr acwsteg fod yn rhan anhepgor o’r tîm cynllunio a dylunio. Yn y dyfodol (o ganlyniad i gyhoeddi Bwletin Adeiladu 93 – BB 93) y gobaith yw y bydd pob adeilad ysgol yn darparu amgylchedd acwsteg dda ar gyfer addysgu a dysgu fel y gall pob plentyn dderbyn addysg mewn ysgolion sydd ag acwsteg bwrpasol ynddynt.

Member Login

Forgotten Password?

Map Navigation

Click on the map to navigate to your area

Snowdonia Video