LATEST NEWS
New Legislation
|
Guidance
|
Marketing Matters
|
LABC CYMRU
Rydych chi yma
>
Hafan
>
Gyrfaoedd
Search
English Version
Hafan
Amdanom Ni
Manylion Cyswllt
Cysylltiadau ar y We
Newyddion
Deddfwriaethau
Safonau Acwsteg Mewn Ysgolion Newydd
Hyfforddiant
Cydymffurfio â’r Rheoliadau Adeiladu a’u Gorfodi
Swyddfeydd
Abertawe
Blaenau Gwent
Bro Morgannwg
Sir Gaerfyrddin
Caerdydd
Caerffili
Casnewydd
Castell-nedd Port Talbot
Ceredigion
Conwy
Gwynedd
Merthyr Tudful
Pen-y-bont ar Ogwr
Penfro
Powys
Rhondda Cynon Taff
Sir Ddinbych
Sir Fflint
Sir Fynwy
Torfaen
Wrecsam
Ynys Môn
Partneriaethau
Hawliau Math LABC
Aelodau
Fforymau
Gyrfaoedd
Gwobrau Ansawdd Ymgorfforol
Gogledd Cymru
De Cymru
Cyhoeddiadau
Fideos
LABC National Awards 2010
Snowdonia Video
Gyrfaoedd
Rhaid i unrhyw un sy’n adeiladu neu’n addasu adeiladau yn y DU gydymffurfio â Rheoliadau Adeiladu cenedlaethol sydd wedi’u llunio er mwyn sicrhau iechyd, diogelwch, lles a hwylustod i ddefnyddwyr adeiladau. Pobl broffesiynol sy’n ymwneud â Rheolaeth Adeiladu sy’n gyfrifol am werthuso’n dechnegol a yw adeiladau’n cydymffurfio â’r Rheoliadau Adeiladu a Ddeddfau’r Llywodraeth. Mae gyrfa yn y maes Rheolaeth Adeiladu yn cynnig swydd amrywiol a heriol sydd yn gofyn llawer o’r gweithiwr mewn sector hanfodol o’r diwydiant adeiladu.
Mae gwaith Rheolaeth Adeiladu yn gymhleth ac amrywiol. Mae’n cynnwys sgiliau ac arbenigedd technegol o ran asesu cynlluniau adeiladu o’r cysyniad hyd cwblhau’r gwaith a’i feddiannu. Mae rhan arwyddocaol o’r gwaith yn cynnwys cynorthwyo ac arwain dylunwyr a datblygwyr. O ganlyniad i hynny, bydd pobl broffesiynol yn y maes Rheolaeth Adeiladu yn gweld eu hunain yn rhwydweithio â phobl broffesiynol eraill yn y maes adeiladu, yn cynnwys:
Penseiri
Adeiladwyr
Datblygwyr
Syrfewyr
Peirianwyr
Swyddogion Tân
Cyfreithwyr
Mae cynnwys y disgyblaethau hyn yn ei gwneud yn bosib i ymdrin â’r materion mewn modd integredig a bydd hyn y sicrhau bod adeiladau’n ddiogel ac yn addas i bwrpas.
Mae’r gwaith yn cynnwys:
Archwilio’r cynlluniau ar gyfer adeiladau newydd, addasiadau ac estyniadau
Archwilio adeiladau a gwaith adeiladu
Archwilio gwaith draenio a deunyddiau draenio, a’u profi
Cymryd samplau o ddeunyddiau ac asesu pa mor addas yw technegau a dyfeisiadau newydd
Cadw cofnodiadau cywir
Mae’r dyletswyddau hyn yn cynnwys amrediad eang o adeiladau – o eiddo bychan, domestig, preswyl, i ddatblygiadau masnachol a diwydiannol ar raddfa fawr sydd werth sawl miliwn. Gall Ymarferwr Rheolaeth Adeiladu fod yn arolygu datblygiad mawreddog o swyddfeydd sydd wedi’u dylunio gan bensaer sy’n adnabyddus trwy’r byd un diwrnod ac ymgymryd ag archwilio cynlluniau ar gyfer datblygiadau tai cymysg y diwrnod canlynol. Ni fydd yr un diwrnod gwaith yr un fath a bydd dyluniadau diddorol yn cadw’r ymarferwr yn ddiwyd.
Gall cyfrifoldebau o fewn LABC hefyd gynnwys:
Strwythurau peryglus
Diogelwch mewn Caeau Chwaraeon neu ddigwyddiadau awyr agored eraill
Archwilio Sinemâu a Theatrau
Trwyddedau adloniant
Gofynion dymchwel
Member Login
Forgotten Password?
LOGIN
Map Navigation
Snowdonia Video