LABC CYMRU
Rydych chi yma > Hafan > Cysylltiadau ar y We

Cysylltiadau ar y We

Submit-a-Plan

Submit-a-Plan yw Porth Cenedlaethol LABC (Rheolaeth Adeiladu Awdurdod Lleol – Local Authority Building Control) ar gyfer gwneud ceisiadau Rheolaeth Adeiladu (ynghyd â rhoi gwybod am adeiladau peryglus) yn electronig ac all-lein i UNRHYW Awdurdod Lleol yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.

www.submit-a-plan.com

Cymunedau a Llywodraeth Leol

Mae Cymunedau a Llywodraeth Leol yn gyfrifol am bolisi cenedlaethol ar lywodraeth leol yn Lloegr. Mae llywodraeth leol yn gwneud gwahaniaeth i fywyd pawb, yn darparu gwasanaethau hanfodol ac yn gwneud ein cymunedau’n llefydd gwell i fyw ynddynt.

Gwefan Cymunedau a Llywodraeth Leol

Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS)

Mae RICS yn ffynhonnell arweiniol o wybodaeth sy’n ymwneud â thir, eiddo, adeiladu a gwybodaeth amgylcheddol berthnasol. Rydym yn cefnogi 120,000 o aelodau ledled y byd, hyrwyddo arferion gorau, cynrychioli buddiannau ein cwsmeriaid ac yn darparu cyngor diduedd i gymunedau, busnesau, llywodraethau a sefydliadau byd-eang.
www.rics.org

LABC

LABC yw’r sefydliad cenedlaethol sy’n cynrychioli adrannau rheolaeth adeiladu awdurdodau lleol yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Mae pob awdurdod lleol yn darparu gwasanaeth er mwyn sicrhau bod gwaith adeiladu yn cydymffurfio â’r Rheoliadau Adeiladu. Mae’r Rheoliadau yn sicrhau ein bod yn byw, gweithio a chwarae mewn amgylchedd adeiledig sy’n iach a diogel.
www.labc-services.co.uk

Yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni

Mae’n darparu gwybodaeth a chyngor ar sut y gallwch ddefnyddio ynni’n fwy effeithlon yn eich cartref. O wybodaeth sy’n ymwneud ag insiwleiddio i beiriannau ac offer sy’n arbed ynni a deunyddiau eraill sy’n cael eu defnyddio yn y cartref, cewch wybod sut y gallwch chi gyfrannu at yr amgylchedd ac arbed arian ar eich biliau ynni.
www.energysavingtrust.org.uk

Member Login

Forgotten Password?

Map Navigation

Click on the map to navigate to your area

Snowdonia Video