Amdanom Ni
Ansawdd
Mae Gwasanaeth o Ansawdd yn rhan hanfodol o amcanion cyflwyno gwasanaeth yr awdurdodau lleol yng Nghymru ac mae’r gwasanaeth rheolaeth adeiladu yn rhan flaengar o’r amcanion hyn. Mae llawer o awdurdodau yn cynnig statws Sicrwydd Ansawdd, Buddsoddwyr mewn Pobl neu Farc Siarter sy’n sicrhau pobl bod ansawdd yn rhan o’r gwasanaeth dyddiol.
Partneriaeth
Mae staff Rheolaeth Adeiladu hyd a lled y rhanbarth yn awyddus i ddarparu gwasanaeth cystadleuol a diduedd i’r holl gwsmeriaid. Mae llawer o awdurdodau lleol y rhanbarth yn annog cyswllt uniongyrchol â’u cwsmeriaid, nid yn unig ar lefel safle, ond hefyd trwy gynnal arolygon cwsmeriaid yn rheolaidd.
O ganlyniad i’w harolygon, bellach mae llawer o awdurdodau’n cynnig trosiant cyflymach ar geisiadau cynlluniau llawn, a chyswllt personol ym mhob awdurdod er mwyn cael cyngor a chymorth cyn y prosiect ac wrth iddo gael ei weithredu, ynghyd â thaflenni gwybodaeth am weithdrefnau ac eithriadau sy’n ymwneud â cheisiadau. Mae cyswllt dros y ffôn a thrafodaethau cynghori cyffredinol yn digwydd fel arfer. Yn y rhan fwyaf o achosion, gellir cynnig gwasanaeth archwilio ar yr un diwrnod a phan wneir cais am archwiliad.
Hawliau Math
Mae Rhanbarth Cymru yn cymryd rhan weithredol o ran hyrwyddo Hawliau Math. Yr amcanion cyffredinol yw cyfrannu’n lleol a chenedlaethol tuag at gynnal gwasanaeth rheolaeth adeiladu o safon broffesiynol, uchel, yn enwedig trwy gyfuno profiadau pob awdurdod lleol yn y rhanbarth er mwyn sicrhau cysondeb wrth ymdrin â materion sy’n ymwneud â rheolaeth adeiladu. Mae LABC Cymru yn hyrwyddo rheolaeth adeiladu ar lefel llywodraeth leol yn y rhanbarth trwy drefnu cynadleddau a seminarau ar newidiadau a diweddariadau i Ddogfennau Cymeradwy.
Bydd datblygwyr a phobl broffesiynol yn gweld bod y digwyddiadau hyn yn cael eu cynnal hyd a lled y rhanbarth. Rydym yn falch bob amser o glywed gan ein cwsmeriaid, boed hynny yn ysgrifenedig neu drwy gysylltu dros y ffôn.
Manylion Daearyddol
Mae Cymru’n ardal ddaearyddol amrywiol a chyferbyniol. Yn y gogledd, mae’r arfordir digyfnewid o faeau tywodlyd a chlogwyni ynghyd â threfi arfordirol megis Biwmares a threfi glan môr megis Llandudno, Bae Colwyn, Rhyl a Phrestatyn yn cyferbynnu ag ardal y gororau ble gwelir mynyddoedd a chymoedd o amgylch Llangollen. Mae Mynyddoedd Eryri (sy’n rhan o Barc Cenedlaethol) yn cyferbynnu â swyn arfordir Penrhyn Llŷn.
Canolbarth Cymru yw calon cefn gwlad Cymru – dyma ardal o drefi marchnad, ffyrdd mynydd a’r gororau. Yn yr ardal hon gwelir Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Yng ngorllewin Cymru – y Gymru draddodiadol, mae tref Fictoraidd Aberystwyth a chyfres o drefi glan môr eraill sy’n ymguddio ar hyd Bae Ceredigion, yn cyferbynnu ag ardal brydferth Cwm Teifi, tiroedd amaethyddol mwyn a mynyddoedd gwyllt y Cambrian.
Yn Sir Benfro, mae baeau diarffordd a chlogwyni mawr yn rhan o unig Barc Cenedlaethol Arfordirol Prydain – yma mae tref brydferth Dinbych-y-Pysgod a dinas hanesyddol Tŷ Ddewi. I’r de, saif Abertawe ac ardal Penrhyn Gŵyr. Saif Dinas Abertawe, sydd ag ardal forwrol syfrdanol yn rhan ohoni, ger bae tywodlyd. Arfordir digyfnewid Penrhyn Gŵyr oedd yr ardal gyntaf ym Mhrydain i gael ei dynodi’n Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Gerllaw, saif bryniau gwyrddion Dyffryn Nedd sy’n ymestyn tuag at ardal Cymoedd y Dwyrain sydd wedi’u hadfywio’n gyffrous. Dyma ardal sy’n cyferbynnu â’r Brifddinas, Caerdydd, ble ceir canolfan siopa sydd gyda’r gorau yn y byd a’r datblygiad newydd yn y Bae sy’n ategu arfordir dramatig y Barri a Phorthcawl sy’n ymguddio ger cefn gwlad Bro Morgannwg a bryniau Cymru.
Ffactorau Daearegol
Mae daeareg Cymru yn hynod amrywiol ac mae wedi dylanwadu’n fawr ar ddatblygiad y rhanbarth. Gall yr haenau glo yng Nghymoedd y de a’r gogledd ddwyrain, ynghyd â gwaith llechi a chwareli’r gogledd orllewin, a oedd yn eu hanterth ar ddiwedd y 19eg ganrif a dechrau’r 20fed ganrif, fod yn broblem i adeiladwyr pan maent yn dod ar draws yr hen weithfeydd. Mae adrannau Rheolaeth Adeiladu mewn sawl ardal o’r rhanbarth yn ymwneud â dylunio sylfaeni arbenigol os yw’r tir dan sylw wedi bod ynghlwm â gweithgareddau mwyngloddio.
Haenau glo de Cymru oedd canolbwynt y chwyldro diwydiannol yn y rhanbarth. Mae’r problemau sy’n gysylltiedig â thomenni gwastraff a gwastraff diwydiannol, ynghyd â gwaith adennill tir helaeth yn sgil diwedd y diwydiannau trwm traddodiadol a chloddio am lo, yn gofyn am ddyluniadau gofalus o ran y sylfeini ac archwiliadau safle.
Mae awdurdodau lleol yn dal gwybodaeth werthfawr i ddatblygwyr yn yr ardaloedd hyn ac fe’u cynghorir i gysylltu â rheolaeth adeiladu awdurdodau lleol gan fod ganddynt wybodaeth a chofnodion lleol manwl sydd wedi datblygu dros amser.
Ffactorau Demograffig
Mae gan Gymru boblogaeth o oddeutu 2.8 miliwn ac mae oddeutu 0.5 miliwn yn siaradwyr Cymraeg. Mae awdurdodau lleol yn darparu gwasanaeth rheolaeth adeiladu dwyieithog ac yn annog pobl i ddefnyddio’r Gymraeg gan eu bod yn defnyddio ffurflenni a thaflenni gwybodaeth dwyieithog.
Mae’r prif ardaloedd trefol yn y rhanbarth wedi’u lleoli yn yr ardal ddiwydiannol draddodiadol yn ne Cymru. Gellir priodoli gweithgarwch diwydiannol a masnachol yn yr ardal hon i’r chwyldro diwydiannol a ddigwyddodd yn ystod hanner cyntaf y 18fed ganrif. Dros y can mlynedd i gan mlynedd a hanner dilynol, roedd y rhanbarth yn ganolfan gwaith metel ac roedd yno borthladdoedd o bwysigrwydd byd-eang a oedd yn cynyddu mewn maint a phoblogaeth yn gyflym iawn.
Roedd y rhan fwyaf o’r diwydiannau trwm yn cynhyrchu gwastraff, peth ohono’n wenwynig, a chai ei dipio mewn tomenni mewn man cyfleus ger y gwaith. Erbyn ail ran yr 20fed ganrif, roedd y gwaith o ailffurfio’r rhanbarth wedi hen ddechrau. Bellach, mae bron pob un o’r diwydiannau traddodiadol wedi diflannu. Mae tipiau’r pyllau glo wedi’u lefelu ac mae gweithfeydd metel wedi’u dymchwel er mwyn gwneud lle i ffatrïoedd newydd neu ganolfannau siopa.
Er mwyn arallgyfeirio sylfaen economaidd y rhanbarth, gwnaed ymdrech sylweddol er mwyn datblygu potensial y diwydiannau treftadaeth a thwristiaeth. Yn y de, mae mwyafrif y gweithlu’n cael eu cyflogi mewn gwasanaethau a diwydiannau newydd ysgafn, technolegol. Yn ogystal, mae’r rhanbarth wedi datblygu i fod yn drefi a phentrefi noswylio ar gyfer y rhai sy’n byw’n lleol ac yn gweithio rhywle arall ac mae iddynt swyddogaethau sy’n cynyddu mewn pwysigrwydd fel rhanbarth ac ardal ble mae pobl yn symud yno ar ôl iddynt ymddeol.
Isadeiledd
Mae de Cymru’n cael ei gwasanaethu’n dda gan rwydweithiau ffyrdd a rheilffordd. Mae cyntedd yr M4 yn ymestyn heibio Abertawe a’r A40 i’r de orllewin. Mae’r M5 yn ei gwneud yn bosib i deithio’n hwylus i Firmingham, Canolbarth Lloegr ac i ddinasoedd y de orllewin.
Mae gogledd Cymru’n cael ei gwasanaethu gan ffordd ddeuol yr A55 sy’n rhedeg ar hyd arfordir y gogledd o Gaer i Gaergybi.
Mae cysylltiadau rheilffordd wedi eu hir sefydlu a bydd teithio mewn awyren yn cludo’r teithiwr i Faes Awyr Rhyngwladol Caerdydd. Mae’r prif gysylltiadau rheilffordd o Lundain yn rhedeg i Gaergybi ar arfordir y gogledd orllewin ac i dde a gorllewin Cymru ar hyd arfordir y de. Mae modd cysylltu’n rhwydd â phob tref a dinas yng Nghymru.
Tueddiadau Diwydiannol a Masnachol
Mae’r diwydiannau traddodiadol o fwyngloddio (glo a llechi), gwaith peirianyddol trwm, gweithfeydd metel a’r dociau wedi diflannu dros y blynyddoedd, ac mae diwydiannau peirianyddol ysgafn, technolegol a gweithfeydd cynhyrchu wedi dod yn eu lle. Mae sawl ardal yn y rhanbarth wedi cael budd o adfywio trefol sydd wedi arwain at dwf newydd ac sydd wedi darparu cyfleoedd buddsoddi a datblygu.
Parhau y mae’r tuedd tuag at ailfywhau ardaloedd y dociau gyda morwyr newydd. Mae twristiaeth a hamdden yn chwarae rhan bwysig iawn yn economi’r rhanbarth. Mae’r diwydiannau trydanol ac electronig yn rhan o’r byd economaidd sydd wedi’i sefydlu’n dda, yn enwedig yn y de, gan fod yr ardal wedi cael budd o fuddsoddiad mewnol sylweddol o Siapan, Korea ac UDA.
Mae Asiantaeth Datblygu Cymru yn gweithredu hyd a lled Cymru er mwyn annog a chefnogi twf economaidd trwy gydol y wlad.